Sut mae mabolgampwyr elît yn ymdopi â gofynion hyfforddi a chystadlu yn gyson ar y lefel uchaf o berfformio? Sut caiff y nodwedd hon ei datblygu? Beth yw'r ffactorau sy'n dylanwadu ar y datblygiad hwn? Beth yw'r goblygiadau ar gyfer rheoli straen a hyrwyddo lles mewn meysydd a galwedigaethau proffesiynol eraill?
Bydd yr Athro Mellalieu yn tywys y gynulleidfa ar daith bersonol o'i brofiadau fel chwaraewr ac ymgynghorwr sydd wedi llywio ei ddiddordebau ymchwil a pheth o'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth gyfoes o ran y profiad o straen seicolegol, ymdopi a lles mewn chwaraeon elît. Wedi'i ategu gan athroniaeth 'theori i ymarfer i theori' caiff dylanwad ystod o ffactorau personol, cyd-destunol, cymdeithasol a datblygiadol ar y ffenomen hon ei archwilio.
Yr Athro Stephen Mellalieu
Mae Stephen yn Athro Seicoleg Chwaraeon yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Olchfa yn Abertawe, graddiodd o Brifysgol Loughborough yn 1996 ar ôl cwblhau ei astudiaethau BSc ac MSc mewn Addysg Gorfforol a Gwyddorau Chwaraeon. Cwblhawyd ei draethawd ymchwil Doethuriaeth mewn seicoleg chwaraeon yn 2000 o Sefydliad Addysg Uwch Cheltenham a Swydd Gaerloyw ac yn fuan wedyn cafodd ei swydd gyntaf fel darlithydd ym Mhrifysgol Caerfaddon. Yn 2002 dychwelodd Stephen at ei wreiddiau i weithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn yr Adran Gwyddorau Chwaraeon lle bu'n gweithio am y 13 mlynedd nesaf.
Ymunodd Stephen ag Ysgol Chwaraeon Caerdydd yn ystod hydref 2015 lle mae'n Ddeon Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil ar hyn o bryd. Mae hefyd yn Olygydd y Journal of Applied Sport Psychology ac yn gyd-sefydlydd a Golygydd Rhwydwaith Gwyddoniaeth Rygbi'r Byd. Mae Stephen yn Seicolegydd Siartredig o Gymdeithas Seicolegol Prydain, yn Seicolegydd Ymarferydd cofrestredig ac yn Bartner gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac yn Wyddonydd Chwaraeon achrededig o Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad ymgynghori mewn chwaraeon perfformiad uchel, gan weithio'n fwyaf diweddar gydag undeb rygbi proffesiynol.
Mae prif ddiddordebau ymchwil Stephen ym maes lles athletwyr, gan gynnwys straen, ymdopi a pherfformiad, hyfforddiant sgiliau seicolegol a newid ymddygiad, ac amgylchedd sefydliadol chwaraeon elît. Yn benodol, mae gan Stephen ddiddordeb yn y ffordd mae'r unigolion hynny sy'n gweithredu o fewn amgylcheddau chwaraeon perfformiad uchel yn defnyddio adnoddau personol a chymdeithasol wrth iddynt negodi'r gofynion amrywiol a roddir arnynt drwy gydol eu gyrfaoedd proffesiynol. Mae Stephen wedi cyd-olygu nifer o destunau enwog ym maes seicoleg chwaraeon gyda'r Athro Sheldon Hanton gan gynnwys: Literature Reviews in Sport Psychology (2006), Advances in Applied Sport Psychology (2009), Professional Practice in Sport Psychology: A Review (2011), a Contemporary Advances in Sport Psychology (2015) yn ddiweddar.
Pan nad yw'n gweithio neu'n treulio amser gyda'i deulu, gellir dod o hyd i Stephen ger y môr neu ynddo yn rhoi cynnig (gwael) ar nifer o weithgareddau yn y dŵr, yn bennaf syrffio.
|