Darllenwch yr ebost hwn yn eich porwr

 
Header
 


Cynhelir y ddarlith hon ar adeg allweddol yn hanes yr Aifft a’r Deyrnas Unedig, gan y bydd 2017 yn flwyddyn o ddatblygiadau nodedig yn y ddwy wlad. Bydd yr Aifft yn parhau i ddilyn ei chynlluniau i weithredu rhaglen o ddiwygiadau economaidd uchelgeisiol iawn gyda’r nod o wireddu gwir botensial ail economi fwyaf y Byd Arabaidd ac Affrica. Mae’r rhaglen hon yn ceisio sicrhau twf cynaliadwy a ffyniant i bobl yr Aifft. Mae hefyd yn ategu prosiectau mawr uchelgeisiol a dewr y mae’r Llywodraeth yn gweithio arnynt sy’n darparu cyfleoedd buddsoddi rhagorol i’r DU a gwledydd eraill y byd.

O ran y Deyrnas Unedig, mae’r Prif Weinidog wedi tanio erthygl 50 o Gytundeb Lisbon i lansio’n ffurfiol y trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd yn unol ag ewyllys pobl Prydain, a fynegwyd yng nghanlyniad y refferendwm hanesyddol a gynhaliwyd ar 23 Mehefin y llynedd. Mae hi wedi galw Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin er mwyn rhoi mandad i lywodraeth newydd drafod gyda 27 o wledydd yr UE ar ran pobl Prydain. Yn y cyfamser mae’r DU yn ceisio meithrin cysylltiadau economaidd newydd â gweddill y byd er mwyn parhau i fod yr economi fawr sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.

Bydd Llysgennad Nasser Kamel yn cyflwyno safbwynt unigryw ar y rhagolygon a’r ymdrechion a wnaed i wella cydweithrediad rhwng y Dwyrain Canol a’r DU ym mhob sector.

 

Ei Ardderchogrwydd Mr Nasser A Kamel
Llysgennad Gweriniaeth Arabaidd yr Aifft i Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Mae Mr Kamel yn Llysgennad Gweriniaeth Arabaidd yr Aifft i’r DU ers mis Medi 2014.

Ei swydd flaenorol cyn y DU oedd Gweinidog Tramor Cynorthwyol dros Faterion Arabaidd a’r Dwyrain Canol yn y Weinyddiaeth Materion Tramor, Cairo (2012-14).

Yn fuan wedi iddo ymuno â Gwasanaeth Tramor yr Aifft yn 1983, symudodd i’r Swyddfa Wleidyddol ac Economaidd yn Llysgenhadaeth yr Aifft yn Washington D.C., (1984-1988). Yna dychwelodd i Cairo i ymuno â Chabinet y Gweinidog dros Faterion Tramor (1988-1990). Yn ddiweddarach symudodd i fod yn Ymgynghorydd Economaidd yn Llysgenhadaeth yr Aifft yn Lisbon (1990-1994) ac yna yn Tunis (1994-1998), cyn symud nôl i Cairo yn Ddirprwy Weinidog Cynorthwyol dros Faterion Tramor (1998-1999). Yn 1999-2001 cafodd ei benodi yn Ddirprwy Chef de Mission, Pennaeth Comisiwn/Cyngor Ewrop yng Nghenhadaeth yr Aifft ym Mrwsel, yna yn Ddirprwy Chef de Mission yn Llysgenhadaeth yr Aifft ym Mharis (2001–04).

O 2004 hyd 2006 roedd Mr Kamel wedi’i benodi yn Gyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodaeth Gyhoeddus yr Aifft. Yna cafodd ei benodi yn Llysgennad Gweriniaeth Arabaidd yr Aifft  i Ffrainc am 6 blynedd (2006–2012) lle bu’n Gynrychiolydd Parhaol yr Aifft i’r OECD (Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd) a’r OIF (l'Organization International de la Francophonie).

Bu Llysgennad Nasser Kamel yn astudio ar lefel israddedig yn Ysgol Economeg a’r Gwyddorau Gwleidyddol, Prifysgol Brwsel ac yn Ysgol Economeg a’r Gwyddorau Gwleidyddol, Prifysgol Cairo. Bu’n astudio hefyd yn yr Institut International d'Administration Publique ym Mharis (1982-1983).